CwmTafLogo_New

 

 

Diwygio Contract Deintyddol Llywodraeth Cymru

 

Mae'r Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol cyfredol a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2006 yn rhoi gwerth contract blynyddol i ddeintyddion er mwyn iddynt ddarparu lefel gytunedig o Unedau Gweithgarwch Deintyddol. Mae'n dra hysbys nad yw Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol yn hapus gyda'r contract presennol gan eu bod yn teimlo bod gweithio tuag at darged gweithgarwch fel 'bod ar y felin droed'. Hefyd, mae rhai ymarferwyr deintyddol cyffredinol yn gyndyn i dderbyn cleifion newydd gan nad ydynt yn gwybod faint o driniaeth y gallai fod angen ar y cleifion hynny. Caiff Unedau Gweithgarwch Deintyddol eu dyrannu yn seiliedig ar gyrsiau triniaeth a chaiff triniaeth ddeintyddol ei chategoreiddio yn y gwahanol fandiau, felly er enghraifft, byddai deintydd yn derbyn yr un nifer o Unedau os oedd angen 1 llenwad dant neu 5 ar y claf. Hefyd yr Unedau Gweithgarwch Deintyddol yw'r prif fesur o berfformiad deintyddol ond nid yw'n rhoi sicrwydd o ansawdd y gwasanaeth.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cefnogi diwygio'r Contract Deintyddol a chymeradwywyd 3 deintyddfa ar gyfer y Cam 1af ym mis Medi 2017 a bydd o leiaf 1 practis ychwanegol yn dechrau'n ddiweddarach eleni. Felly, bydd 10% o bractisau deintyddol yn ardal y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gweithredu o dan ddiwygio'r contract deintyddol eleni.

 

Ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gyndyn o gymeradwyo mwy o bractisau deintyddol gan fod lleihau'r Unedau Gweithgarwch Deintyddol a gontractiwyd gan 10% hefyd yn lleihau'r Refeniw o Daliadau Cleifion y mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn ei dderbyn o ran taliadau cleifion; mae'r dyraniad deintyddol yn cael ei roi i Fyrddau Iechyd llai'r Refeniw o Daliadau Cleifion felly mae unrhyw ddiffyg mewn incwm yn cael effaith ar sefyllfa ariannol y Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gyllid ychwanegol pe bai Byrddau Iechyd yn cymeradwyo o leiaf 10% o bractisau deintyddol. Mae'r arian ychwanegol hwn yn talu am y diffyg amcangyfrifedig mewn Refeniw o Daliadau Cleifion ar gyfer 4 practis deintyddol, felly mae'n risg i sefyllfa ariannol y Bwrdd Iechyd Prifysgol pe bai'n cymeradwyo mwy. Bydd unrhyw leihad sylweddol mewn Refeniw o Daliadau Cleifion yn effeithio ar wasanaethau deintyddol sylfaenol eraill.

 

Un o'r beirniadaethau ar y contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol presennol yw na chafodd ei brofi cyn ei gyflwyno yn 2006. Felly, mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol o'r farn ei bod yn bwysig treialu diwygio'r contract deintyddol ar nifer fach o bractisau er mwyn dysgu gwersi, nid yn unig mewn perthynas ag unrhyw risg sy'n ymwneud ag ariannu, ond hefyd y broses asesu risg, lle mae sawl newid wedi bod eisoes ers cyflwynwyd Cam 1 ym mis Medi 2017. Mae angen i'r seilweithiau TGCh fod ar gael hefyd i gefnogi'r ffordd newydd o weithio ac nid yw pob practis deintyddol yn defnyddio systemau cwbl gyfrifiadurol ar hyn o bryd.

 

Os yw % yr Unedau Gweithgarwch Deintyddol yn cael ei leihau ymhellach o dan gontract newydd, mae angen penderfynu sut y caiff contractau deintyddol eu monitro er mwyn sicrhau uniondeb a gwerth am arian. Pan gyflwynwyd y contract presennol, cymerodd sawl blwyddyn i'r broses gael ei chytuno a'i gweithredu'n llawn. Mae angen i Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol fod yn gwbl ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir o'r cychwyn er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.

 

Mae'r gwaith o Ddiwygio'r Contract Deintyddol yn canolbwyntio ar atal a hefyd defnyddio amrywiaeth o sgiliau staff o fewn y practis. Fodd bynnag, adborth gan rai deintyddion yw eu bod yn pryderu sut y bydd hyn yn gweithio mewn meddygfa sengl neu bractis bach, lle na fydd ganddynt ddigon o le efallai i letya ymarferwyr eraill. Pan ofynnodd y Bwrdd Iechyd am ddatganiadau o ddiddordeb i gymryd rhan yn y broses o ddiwygio'r contract deintyddol, ychydig iawn o bractisau oedd â diddordeb. Felly, un rhwystr rhag ehangu nifer y practisau fydd argyhoeddi deintyddion y byddant yn gallu gweithio'n effeithiol o dan y trefniadau newydd.

 

Wrth i nifer y practisau sy'n gweithio o dan y contract newydd gynyddu, mae angen ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd hefyd. Os na roddir cyhoeddusrwydd i'r ffyrdd newydd o weithio, mae'n bryder bod risg y ceir cynnydd mewn cwynion gan gleifion.

 

 

Sut y defnyddir 'arian adfachu'

 

Mae'r Contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol yn nodi bod Darparwr ond yn gallu cario uchafswm o 5% o ddiffyg o ran Unedau Gweithgarwch Deintyddol i'r flwyddyn ariannol ddilynol, felly mae unrhyw achos o dorri contract sy'n fwy na 5% yn meddwl bod rhaid ad-dalu arian i'r Bwrdd Iechyd Prifysgol.

 

O'r sefyllfa ganol blwyddyn ym mhob blwyddyn ariannol (h.y. 30ain Medi) mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn monitro gweithgarwch yn ofalus, gan gymharu perfformiad gwirioneddol bob mis â'r lefelau cyrhaeddiad disgwyliedig. Gan fod y contract presennol wedi dechrau ym mis Ebrill 2006 mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol 12 mlynedd o ddata tueddiadau erbyn hyn i helpu gyda'r broses fonitro.

 

Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn cyfathrebu â darparwyr yn ystod y flwyddyn ariannol pan fo pryderon bod y practis yn debygol o dangyflawni yn erbyn eu contract. O bryd i'w gilydd bydd Darparwyr yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Prifysgol eu bod yn disgwyl methu â chyflawni 95% o'r Unedau Gweithgarwch Deintyddol a byddant yn cytuno i'r arian gael ei ddal yn ôl yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae hyn yn galluogi'r Bwrdd Iechyd Prifysgol i gynnig cyllid wedi'i ddal yn ôl i bractisau deintyddol eraill neu i fuddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol eraill yn ystod y flwyddyn ariannol felly ni chaiff cyllid ei golli i ddeintyddiaeth y GIG.

 

Fodd bynnag, nid yw'r mwyafrif o ddarparwyr deintyddol yn cytuno i ostyngiad dros dro yn eu contractau yn ystod y flwyddyn ariannol, hyd yn oed pan fo'r Bwrdd Iechyd Prifysgol o'r farn y byddant bron yn sicr o fethu â chyrraedd targed y contract. Gan fod gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol 12 mlynedd o ddata tueddiadau, gellir gwneud penderfyniad yn ystod y flwyddyn ar y canlyniad ariannol tebygol, felly gellir penderfynu a ddylid buddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol eraill yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Ar hyn o bryd mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol gontractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol gyda 35 o bractisau deintyddol cyffredinol gwerth £13m. Bob blwyddyn ariannol ers cyflwyno'r contract Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol nid yw rhai darparwyr deintyddol yng Nghwm Taf wedi cyflawni eu targedau contract; mae nifer a gwerth yr ad-daliad wedi amrywio bob blwyddyn. Nid yw'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn chwilio am arbedion ar gontractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol ond pan gaiff arian ei ad-dalu, mae'n ail-fuddsoddi:

 

Ø  Trwy gynnig Unedau Gweithgarwch Deintyddol ychwanegol i bractisau eraill pan fydd arian yn cael ei ryddhau yn ystod y flwyddyn ariannol sydd wedi golygu bod yr Unedau ychwanegol yn cael eu buddsoddi ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon

Ø  Trwy brynu offer er mwyn cychwyn Gwasanaeth Llawdriniaeth Mân-geneuol a gwasanaeth tawelyddu i gleifion pryderus ym maes Gofal Sylfaenol.

Ø  Trwy drefnu sesiynau Gwasanaeth Llawdriniaeth Mân-geneuol Gofal Sylfaenol ychwanegol ar benwythnosau er mwyn lleihau'r rhestr aros.

Ø  Trwy gymeradwyo grantiau gwella ar gyfer nifer o bractisau deintyddol i'w gwneud yn fwy hygyrch i gleifion anabl

Ø  Trwy brynu dolenni clywed ar gyfer derbynfa pob practis deintyddol ynghyd â dyfeisiau clyw Sonido i'w defnyddio mewn cymorthfeydd.

Ø  Trwy ariannu tri chwrs Farnais Fflworid a'u cynnig i'r holl bractisau deintyddol cyffredinol i'w nyrsys eu mynychu am ddim

Ø  Trwy brynu brwsys dannedd, past dannedd a chwpan i Ymwelwyr Iechyd i roi i'r holl blant dan 3 oed

Ø  Trwy darparu adnoddau ar gyfer yr ymgyrch “Mae Dannedd Babanod YN Bwysig”

 

Amcangyfrifir y bydd gwerth yr adennill cyllid ar gyfer tanberfformio 2017/18 yn 2.2% o gyfanswm y contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol ond nid yw'r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi cwblhau'r broses adolygu diwedd blwyddyn eto felly efallai nad hwn fydd y swm gwirioneddol a adenillir.

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi cymeradwyo Cynllun Tymor Canolig Integredig ac felly nid yw'r gyllideb ddeintyddol bellach wedi'i chlustnodi. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn ymrwymedig i wella iechyd geneuol cleifion Cwm Taf ac nid oes ganddo broblem mynediad gyda mwy na hanner y practisau deintyddol yn derbyn cleifion GIG newydd. Pan gaiff arian ei ad-dalu oherwydd torri contract, mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn manteisio ar y cyfle i ariannu mentrau deintyddol newydd, fel y disgrifiwyd uchod.

 

 

Materion yn ymwneud â hyfforddiant, recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru

 

Nid yw recriwtio yn broblem i'r rhan fwyaf o bractisau deintyddol yng Nghwm Taf ar hyn o bryd, ac mae'n debyg bod hyn oherwydd ei agosrwydd at Gaerdydd a'r ysgol ddeintyddol. Fodd bynnag, mae'r practisau corfforaethol wedi adrodd eu bod yn cael problemau wrth recriwtio deintyddion, a gallai hyn fod o ganlyniad i Brexit gyda graddedigion o Ewrop â llai o ddiddordeb i ddod i'r DU. Fel gyda'r Ymarfer Meddygol Cyffredinol, awgrymwyd bod deintyddion iau'n ymddangos yn amharod i ymrwymo i berthynas hirdymor neu helaeth â'r GIG ac nad yw'n ymddangos bod ganddynt ddiddordeb mewn dod yn berchenogion practis; gan ffafrio gweithio rhan-amser er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Wrth i'r Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol presennol ymddeol gallai hyn ddod yn fwy o broblem gyda deintyddion llai profiadol o bosibl yn amharod i ddarparu triniaeth a wneir yn draddodiadol mewn gofal sylfaenol.

 

Yn sgil cyflwyno'r broses o Ddiwygio'r Contract Deintyddol a mwy o ddefnydd o gymysgedd sgiliau amrywiol mewn practisau deintyddol, mae angen cynllun gweithlu er mwyn sicrhau bod digon o'r unigolion hyn ar gael i gefnogi practisau deintyddol.

 

Darparu gwasanaethau orthodontig

 

Nid oes unrhyw bractis orthodontig arbenigol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac yn hanesyddol mae cleifion bob amser wedi teithio i'r practisau arbenigol yng Nghaerdydd. Pan gyflwynwyd y contract presennol yn 2006 rhoddwyd arian i'r Bwrdd Iechyd yn seiliedig ar wariant hanesyddol mewn practisau deintyddol yn hytrach na'i seilio ar boblogaeth cleifion. Felly nid oes gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fawr o ddylanwad ar gontractau orthodontig, gan fod tua £750k o arian ar gyfer cleifion Cwm Taf yn gorwedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Mae pryderon ynghylch hyd yr amseroedd aros am driniaeth gan fod y Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi cael gwybod bod y cyfnod rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn para tua dwy flynedd. Dengys arolwg diweddar o'r rhestrau aros mewn practisau Caerdydd a'r Fro fod dros 8,000 o gleifion newydd gyda 1,700 o gleifion eraill yn cael eu hasesu a'u hadolygu ac yn aros i ddechrau triniaeth. Cynhaliwyd adolygiadau blaenorol o wasanaethau orthodontig, sydd wedi datgan bod digon o ddarpariaeth yng Nghymru felly ni fydd buddsoddiad pellach yn y gwasanaeth.

 

Awgrymwyd bod y rhestrau aros hir hyn yn digwydd oherwydd bod deintyddion yn atgyfeirio cleifion i gael triniaeth yn rhy gynnar ac roedd archwiliad o atgyfeiriadau cleifion newydd a wnaed gan LOC De Ddwyrain Cymru yn 2015 yn dangos bod 15% o gleifion wedi cael eu hatgyfeirio'n gynnar. Mae hyn yn ganlyniad y gellid ei osgoi yn sgil rhestrau aros hir.

 

Cyflwynodd y Rhwydwaith Clinigol a Reolir ar gyfer Orthodonteg ffurflen atgyfeirio mewn ymgais i leihau atgyfeiriadau amhriodol/cynnar ond nid yw'n ymddangos bod hyn wedi cael unrhyw effaith ar leihau nifer yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth. Er hyn, mae ansawdd yr atgyfeiriadau yn dangos gwelliannau cadarnhaol. Gobeithir y bydd y System Rheoli Atgyfeiriadau Electronig sydd i'w chyflwyno ledled Cymru erbyn mis Mawrth 2019 yn parhau i wella ansawdd yr atgyfeiriadau ond, yn y pen draw, mae'r dagfa oherwydd y capasiti i drin.

 

Yng Nghwm Taf mae arbenigwyr orthodontig yn gweithio i'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ond nid ydynt yn derbyn atgyfeiriadau oddi wrth Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol. Ar hyn o bryd caiff y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ond caiff ei drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ym mis Ebrill 2019. Yna caiff y gwasanaeth ei adolygu o ran sut y gall weithio'n agosach â'r gwasanaeth orthodontig ysbytai.

 

Mae cleifion yn tueddu i gael eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth ysbyty er nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer triniaeth gymhleth gan nad yw rhieni o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gallu teithio i Gaerdydd gan nad oed ganddynt gludiant. Mae hyn wedyn yn cael effaith ar y rhestrau aros am driniaeth mewn ysbytai, yn enwedig yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, sydd ar hyn o bryd yn 2½ i 3 blynedd.

 

Yng Nghwm Taf mae 3 Deintydd â Sgiliau Gwell mewn orthodonteg sy'n gweithio mewn practisau gofal sylfaenol. Mae'r 3 Deintydd â Sgiliau Gwell yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr yn yr ysbyty a byddent yn gallu trin mwy o gleifion ond fe'u cyfyngir gan eu Hunedau Gweithgarwch Orthodontig sydd wedi'u contractio. Mae ganddynt nifer fach iawn o Unedau Gweithgarwch Orthodontig yn seiliedig ar eu henillion yn ystod y cyfnod cyfeirio cyn Ebrill 2006.

 

Pa mor effeithiol yw rhaglenni gwella iechyd y geg lleol a chenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc

 

Dechreuodd y Cynllun Gwên yn 2009, ac mae timau'n ymweld ag ysgolion cynradd i gyflwyno brwsio dannedd a farnais fflworid i blant ifanc. Mae tîm y Cynllun Gwên yn ymweld ag ysgolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ond mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol hefyd yn ariannu tîm i ymweld â'r holl ysgolion cynradd eraill nad ydynt yn dod o dan y Cynllun Gwên. Felly, mae pob ysgol gynradd yng Nghwm Taf yn cael cyfle i gyflwyno brwsio dannedd a farnais fflworid dan oruchwyliaeth mewn ysgolion. Yn anffodus, ni fydd pob pennaeth yn cytuno i'r rhaglen gwella iechyd y geg hon yn eu hysgol. Mae mwyafrif yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn ymwneud yn llawn â'r fenter ac mae'r rhaglen yn rhan o'u hachrediad dan y Wobr Ysgolion Iach.

 

Mae'r arolwg diweddaraf o blant 5 oed yn dangos bod iechyd y geg ymhlith plant wedi gwella'n sylweddol ledled Cymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, ni welwyd y gwelliant hwn yng Nghwm Taf. Yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a fyddai'r lefelau pydredd wedi cynyddu oni bai am y rhaglenni iechyd geneuol presennol sydd ar waith? Mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi rhoi blaenoriaeth i wella iechyd geneuol plant ac ers mis Medi 2017 mae bellach wedi cyflwyno rhaglen farnais fflworid ar gyfer yr ysgolion hynny nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Gwên.

 

Ers mis Ebrill 2017 mae'r Bwrdd Iechyd Prifysgol bellach yn ariannu brwsys dannedd/past dannedd i ymwelwyr iechyd i roi i fabanod/twdlod ddwywaith y flwyddyn. Maent hefyd yn rhoi cwpan yfed am ddim i'r plentyn i annog y plentyn i roi'r gorau i ddefnyddio potel.

 

A yw'n ffactor nad yw iechyd geneuol plant yng Nghwm Taf wedi gwella oherwydd bod nifer y plant sy'n cael gwasanaethau deintyddol wedi gostwng dros y blynyddoedd? Yn 2009, mynychodd 36,271 o blant ddeintydd yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, fodd bynnag, erbyn 2017 roedd y nifer hwnnw wedi gostwng i 35,158.

 

Mewn ymgais i gynyddu nifer y plant sy'n mynychu practis deintyddol, penderfynodd y Bwrdd Iechyd Prifysgol dreialu menter “Mae Dannedd Babanod YN Bwysig” yn ardal Merthyr Tudful (mae gan 56.5% o blant dan 5 oed bydredd dannedd). Nid yw'r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi buddsoddi o'r contract Unedau Gweithgarwch Deintyddol yn y fenter hon, ac eithrio swm bach i dalu am hysbysebu a hyrwyddo. Ar hyn o bryd, mae 3 deintyddfa ym Merthyr Tudful yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ac maent yn gysylltiedig â phractisau Meddygon Teulu. Mae deintydd neu therapydd deintyddol yn ymweld â'r clinigau babanod i siarad â rhieni babanod/twdlod i'w hannog i fynychu deintyddfa. Roedd y 3 practis deintyddol wedi cael gostyngiad o 5% yn eu contractau Unedau Gweithgarwch Deintyddol ond arhosodd eu gwerth contract blynyddol yr un fath. Defnyddiwyd y 5% o gyllid i dalu'r deintydd neu'r therapydd deintyddol i fynychu sesiynau yn y practisau Meddygon Teulu.

 

Dim ond ym Merthyr Tudful mae'r peilot ar hyn o bryd ond rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r ymgyrch ymwybyddiaeth ledled Cwm Taf.

 

Dechreuodd y cynllun peilot ym mis Ebrill 2017 ac yn ystod 2017/18 mae nifer y plant sy'n mynychu practis deintyddol cyffredinol wedi cynyddu:

 

Ø  Mae cyfanswm nifer y plant wedi cynyddu o dros 1,500 o blant (4.48%)

Ø  Mae cyfanswm nifer y plant 0-2 oed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol (grŵp oedran targed) wedi cynyddu gan 16.9%

Ø  Cafwyd cynnydd o 39.53% yn nifer y plant 0-2 oed ym Merthyr Tudful (lle mae'r peilot o ran “Mae Dannedd Babanod YN Bwysig”).

 

Mae'r arolwg diweddaraf o blant 12 oed yn dangos bod gostyngiad o 18.5% wedi bod yn y % o blant sydd â dannedd pwdr, dannedd coll neu ddannedd wedi'u llenwi o'i gymharu ag arolwg 2008/09. Felly mae'r Cynllun Gwên wedi bod yn effeithiol o ran lleihau lefelau pydredd ymhlith plant 12 oed.

 

Mae angen i'r Bwrdd Iechyd Prifysgol barhau i roi blaenoriaeth i blant o dan 3 oed a bydd ail-ffocysu'r rhaglen Cynllun Gwên yn canolbwyntio ar hyn. Nid oes un fenter yn unig a fydd yn gwella iechyd y geg ymhlith plant ond mae angen i rieni glywed negeseuon cyson gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.